Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 5 Tŷ Hywel a
fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 21 Mehefin 2023
Amser:
09.32 -
12.12
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13362
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Paul Davies AS (Cadeirydd) Hefin David AS Luke Fletcher AS Vikki Howells AS Samuel Kurtz AS Sarah Murphy AS |
Tystion: |
Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Gian Marco Currado, Llywodraeth Cymru Andrew Gwatkin, Llywodraeth Cymru Duncan Hamer, Llywodraeth Cymru Richard Irvine, Llywodraeth Cymru Peter Ryland, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Rob Donovan, Clerc Lara Date, Ail Glerc Evan Jones, Dirprwy Glerc Ceri Thomas, Swyddog Cymorth y Pwyllgor Sara Moran, Ymchwilydd Gareth Thomas, Ymchwilydd Aled Evans, Cynghorydd Cyfreithiol |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.
1.2 Datganodd Samuel Kurtz AS ei fod yn aelod anrhydeddus o Gymdeithas Milfeddygon Prydain.
1.3 Datganodd Vaughan Gething AS ei fod yn aelod anrhydeddus o Gymdeithas Milfeddygon Prydain.
2 Papurau i'w nodi
2.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.
2.1 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Ardrethu Annomestig
2.2 Bridwyr Hadau Indrawn Porthiant
2.3 Gorchymyn Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (Diwygio) 2023
2.4 Cyfarfod o’r Fforwm Gweinidogol ar gyfer Masnach - 23 Mai 2023
2.5 Y Gronfa Ffyniant Gyffredin a Chronfa Ffyniant Bro y DU
2.6 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol (Rhif 2)
2.7 Ymchwiliad y Pwyllgor i gyllid datblygu rhanbarthol wedi'r UE
3 Craffu Cyffredinol ar Waith y Gweinidog: Gweinidog yr Economi
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog yr Economi.
3.2 Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor i roi gwybodaeth ychwanegol am ddangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer gwasanaeth Busnes Cymru rhwng 2023 a 2029.
3.3 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig gan Weinidog yr Economi i ddarparu i’r Aelodau y manylion a ddarparwyd gan y Gweinidog Huddlestone i Lywodraeth Cymru ynghylch y strwythur adrannol newydd a chyfrifoldeb gweinidogol dros DBT, a gofynnodd yr Aelodau hefyd am wybodaeth ychwanegol ynghylch y Model Gweithredu Targed Ffiniau
4 Craffu Cyffredinol ar Waith y Gweinidog: Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.
4.2 Cytunodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd i ysgrifennu at yr Aelodau i roi manylion am y gronfa ddata taliadau i fuddiolwyr y Polisi Amaethyddol Cyffredin.
4.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog ynghylch y dull rheoli TB prynu gwybodus.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
5.1 Derbyniwyd y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
6 Trafod tystiolaeth yn dilyn y cyfarfod
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
7 Ariannu ar ôl gadael yr UE: trafod y prif faterion
7.1 Trafododd y Pwyllgor y papur materion o bwys ynghylch cyllid datblygu rhanbarthol ar ôl gadael yr UE.